Creadigaethau Cwiar – Lansiad y Tymor Newydd
Rydym yn falch iawn o gychwyn tymor newydd sbon o Greadigaethau Cwiar gyda’n digwyddiad cyntaf eleni:
Ymddangosiad: Ma’s yn y Gymuned, Ddydd Mercher Chwefror 11eg
Mae’r digwyddiad yn ymwneud â gweladwyedd, mynegiant, a mynd â chreadigrwydd cwiar y tu hwnt i ddrysau caeedig ac i le cyhoeddus a rennir. Gyda’n gilydd, byddwn yn cynllunio ac yn creu posteri beiddgar, deniadol a gaiff eu dosbarthu ledled y sir yn ddiweddarach ym mis Chwefror..
Bydd y posteri yn cael eu creu mewn estheteg arddull radicalaidd, gan ddefnyddio ffontiau wedi’u torri, collage, a thechnegau argraffu, meddyliwch am eu gwneud â llaw, mynegiannol, di-ymddiheuriad ac ychydig yn wrthryfelgar.
Y GWEITHDAI
Byddwn yn cynnal dau weithdy creadigol ar y dydd. Mae croeso i chi ymuno a’r naill neu’r llall neu’r ddau.
GWEITHDY #1: GEIRIAU A DYLUNIAD
🕑 2pm – 4pm
Dan arweiniad y bardd Jane Campbell a’r Ysgrifennwr/Cyfarwyddwr Anna Sherratt
Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar iaith, negeseua a dyluniad gweledol – yn archwilio sut gall geiriau lenwi gofod, tarfu ar ddisgwyliadau a chyfleu hunaniaeth a chymuned.
Gweithdy #2: Collage a chreu
🕔 5pm – 7pm
Dan arweiniad yr artistiaid aml-gyfrwng Bean Sawyer a Daisy Buckle
Sesiwn ymarferol yn creu gan ddefnyddio collage, creu printiau, a thechnegau arbrofol i ddod â’r posteri’n fyw.
Pwy all gymryd rhan?
Ar agor i bob oedolyn
Dim angen profiad blaenorol
Dewch i un gweithdy neu arhoswch am y ddau
Gwybodaeth archebu
Mae archebu’n hanfodol i gadarnhau lle yn y gweithdai
I sicrhau’ch lle, ewch i:
www.span-arts.org.uk
uk



