Dathliad Llawen o Ddiwylliant Cymreig yn Dod i Arberth yn Hanner-Tymor.
Gwahoddir teuluoedd ar draws Sir Benfro i ddathlu diwylliant Cymreig, creadigedd a chymuned mewn digwyddiad llawen teulu-gyfeillgar ddydd Mercher Chwefror 18fed. Wedi’i gynllunio i fod yn ddiwrnod allan hamddenol a chroesawgar, mae’r digwyddiad yn cynnig rhaglen gyfoethog o weithdai ymarferol, storia, cerddoriaeth a bwyd, gyda chyfleoedd i alw heibio am un gweithgaredd neu i fwynhau diwrnod cyfan o ddathliadau.
Wrth galon y dydd mae Parêd Promenâd Dewi Sant, gorymdaith fywiog drwy Arberth gyda cherddoriaeth draddodiadol gan y Reel Rebels, gyda symbolau chwedlonol Cymreig gan gynnwys draig a’r Fari Lwyd. Mae’r parêd yn dathlu etifeddiaeth ddiwylliannol ddwfn Cymru tra’n gwahodd cynulleidfaoedd o bob oed i gymryd rhan mewn ennyd o lawenydd a gwledd i’r llygaid i’w rhannu gan bawb.
Mae’r rhaglen ehangach yn arddangos ehangder creadigedd Cymreig. Gall oedolion gymryd rhan mewn gweithdy gwehyddu lleddfol gyda’r artist Daisy Buckle yng Nghelfyddydau SPAN, a gwahoddir plant i sesiwn stori a chrefft wedi ei arwain gan Hedydd Hughes a Luci Saunders yng Nghaban Sgowtiaid Arberth. Daw’r dydd i ben gyda Thwmpath hwyl a chymdeithasol i’r teulu, gyda cherddoriaeth fyw, cawl a chace planc yn cynnig gwir flas ar groeso Cymreig.
Mae’r dathliad cynhwysol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pob oedran a gallu, gydag awyrgylch cyfeillgar sy’n croesawu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:
Gweithdy gwehyddu i oedolion gyda Daisy Buckle yng Nghelfyddydau SPAN
Sesiwn stori a chrefft i blant gyda Hedydd Hughes a Luci Saunders yng Nghaban y Sgowtiaid, Arberth.
Parêd Promenâd Dewi Sant gyda draig, Mari Lwyd a cherddoriaeth gan y Reel Rebels
Twmpath i’r teulu gyda chawl a chace planc yng Nghaban y Sgowtiaid
Manylion Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Chwefror
Lleoliad: Caban y Sgowtiaid, Arberth SA67 7AG, a Chelfyddydau SPAN, Arberth SA67 7AG
Amser: 1:30pm – 5pm
Pris: Talwch yr hyn y gallwch gan ddechrau o: £3
Archebu: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.



