Dyddiad cau wedi ymestyn!

Galw allan am:Sieff/Cogydd/Tîm Arlwyo ar gyfer Gwledd Ganu GŴyl A Cappella SPAN, Arberth, 2025.

Digwyddiad: Y Wledd Ganu yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025

Dyddiad: Dydd Gwener, Mawrth 7fed 2025

Lleoliad: Caban y Sgowtiaid,  Arberth,  Sir Benfro

Dyddiad cau estynedig: 31 Rhagfyr 2024

Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer yr alwad hon! Dyma’ch cyfle i wneud cais i fod yn rhan o Ŵyl A Cappella Arberth 2025.

Manylion y rôl: Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am sieff, cogydd neu dîm arlwyo talentog i greu a chyflwyno cyfres o blatiau blasu ar gyfer ein Gwledd Ganu, digwyddiad agoriadol Gŵyl A Cappella Arberth 2025. Bydd y digwyddiad dwy awr unigryw hwn yn cynnwys cyfuniad o wledda a gweithdai canu gydag angen amrywiaeth o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion. Dylai’r fwydlen gynnwys o leiaf pedwar cwrs gydag opsiynau ar gyfer platiau i’w rhannu a dognau unigol gan ystyried gofynion dietegol arbennig.

Cyfrifoldebau:

  • Cynllunio a pharatoi cyfres o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion
  • Sicrhau bod anghenion dietegol yn cael eu bodloni
  • Cyd-lynu’r gwaith o baratoi a gweini bwyd, yn ddelfrydol yn paratoi oddi ar y safle ac yn cwblhau ar y safle
  • Defnyddio’r cyfleusterau cegin yng Nghaban y Sgowtiaid Arberth, sy’n cynnwys digon o le ar y pen gwaith ond offer coginio cyfyngedig. Darperir llestri a chyllyll a  ffyrc sylfaenol

Ynglŷn â Gŵyl A Capella Arberth a Chelfyddydau SPAN:

Gŵyl A Cappella Arberth, a drefnir gan Gelfyddydau SPAN, yw prif ddathliad llais a cappella Cymru, gan ddenu cyfranogwyr o bob rhan o’r DU. Gyda dros 25 mlynedd o hanes, bydd Gŵyl  A Cappella Arberth 2025 yn canolbwyntio ar leisiau cymunedol, gan gynnwys y Wledd Ganu a gweithdai lleisiol dan arweiniad ymarferwyr o fry rhyngwladol.

Mae Celfyddydau SPAN yn elusen wedi ei lleoli yn Sir Benfro, sy’n ymroddedig i ddefnyddio’r celfyddydau i sbarduno newid cymdeithasol yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Rydym yn cydweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol i greu profiadau sy’n cyfoethogi’n ddiwylliannol ac yn meithrin gwydnwch. Caiff ein gwaith ei arwain gan gyd-greu, yn sicrhau fod ein prosiectau’n berthnasol a thrawiadol yn lleol ac yn fyd-eang fel ei gilydd.

Manylion Ymgeisio:

Os ydych yn angerddol am greu profiadau coginio cofiadwy, ac os gallwch gyflwyno platiau blasu o ansawdd uchel ar gyfer ein Gŵyl Ganu byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

Byddwch cystal ag anfon dyfynbris (wedi seilio ar gost y pen) a chynnig, yn cynnwys bwydlen, syniadau a sut rydych chi’n bwriadu bodloni anghenion dietegol ynghyd â CV o’ch profiad i info@span-arts.org.uk erbyn 31 Rhagfyr 2024.

Am wybodaeth am Gelfyddydau SPAN  a Gŵyl A Capella Arberth ewch i span-arts.org.uk.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cais, yn cynnwys offer/cyfleusterau e-bostiwch info@span-arts.org.uk os gwelwch yn dda.

Scroll to Top