Galwad am Gorau Cymunedol: Gŵyl A Cappella Arberth 2025

Mae Celfyddydau SPAN yn falch i gyhoeddi galwad i Gorau Cymunedol berfformio yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025! Mae’r digwyddiad unigryw hwn, yn dathlu lleisiau a cappella, yn denu torfeydd o bob cwr o’r DU ac yn cynnig cyfle gwych i gantorion arddangos eu talentau.

Dyddiad Digwyddiad: Cynhelir y cyngerdd terfynol am 7yh ddydd Sadwrn Mawrth 8fed 2025

Lleoliad: Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys Sant Andreas, Arberth

Slot Perfformio: Bydd pob côr a ddewisir yn cael slot 20 munud i berfformio

Cyflwyno Cais: e-bostiwch samplau perfformiad, ffotograff a fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024.

Dyddiad Cau: Sicrhewch fod eich cais yn cael ei anfon erbyn Tachwedd 26ain 2024.

 

Sut i ymgeisio

Anfonwch ddewis o samplau sain o’ch repertoire ochr yn ochr â ffotograff a fideo o’ch côr yn perfformio i fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024.

 

Ynglŷn â’r Ŵyl

Gŵyl A Cappella Arberth, wedi’i threfnu gan Gelfyddydau SPAN, yw’r unig ddathliad o leisiau a cappella yng Nghymru. Gyda dros 25 mlynedd o hanes, bydd gŵyl 2025 yn canolbwyntio ar leisiau cymunedol yn y Wledd Ganu  boblogaidd a  gweithdai lleisiol dan arweiniad ymarferwyr o fry rhyngwladol.

Ynglŷn â Chelfyddydau SPAN

Mae Celfyddydau SPAN yn elusen wedi ei lleoli yn Sir Benfro, sy’n ymroddedig i ddefnyddio’r celfyddydau i sbarduno newid cymdeithasol yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Rydym yn cydweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol i greu profiadau sy’n cyfoethogi’n ddiwylliannol ac yn meithrin gwydnwch. Caiff ein gwaith ei arwain gan gyd-greu, yn sicrhau fod ein prosiectau’n berthnasol a thrawiadol yn lleol ac yn fyd-eang fel ei gilydd.

Cyfle Perfformio

Gwahoddwn ddatganiadau o ddiddordeb gan Gorau Cymunedol i berfformio yng nghyngerdd terfynol yr Ŵyl nos Sadwrn Mawrth 8fed 2025. Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys ysblennydd Sant Andreas, Arberth fel diweddglo mawreddog i’r ŵyl. Caiff pob côr a ddewisir slot 20 munud i berfformio.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth pellach mae croeso i chi gysylltu trwy ebostio info@span-arts .co.uk neu ffoniwch 018348 69323

 

Scroll to Top