Gŵyl A Cappella Arberth 2025
Perl unigryw yn dychwelyd i Orllewin Cymru, wrth i docynnau cyfle cynnar gael eu rhyddhau ar gyfer Gŵyl A Cappella Arberth Celfyddydau SPAN 2025!
Mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd i gyhoeddi bod Gŵyl A Cappella Arberth yn dychwelyd ym mis Mawrth 2025. Mae’r ŵyl ysblennydd ac unigryw hon yn dychwelyd i dref Arberth yn 2025 gan ddod ag offrymau A Cappella gwych i Sir Benfro. Yn newydd ar gyfer 2025 mae cynnig Cyfle Cynnar cyffrous newydd ei lansio, gyda thocynnau gwŷl pris gostyngedig, archebu gweithdai â blaenoriaeth a mwy!
Gŵyl A Cappella Arberth, a drefnir gan Gelfyddydau SPAN, yw prif ddathliad llais a cappella Cymru, gan ddenu cyfranogwyr o bob rhan o’r DU. Gyda dros 25 mlynedd o hanes, bydd Gŵyl 2025 yn canolbwyntio ar leisiau cymunedol, gan gynnwys y Wledd Ganu boblogaidd a’r gweithdai lleisiol dan arweiniad ymarferwyr byd-enwog.
Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda’n Gwledd Ganu groesawgar, noson lle gallwch fwynhau bwyd blasus, cwmni ardderchog a chanu llawen ar y nos Wener. Ar y dydd Sadwrn gallwch ymuno â’n gweithdai canu sy’n dod â chantorion talentog i ddysgu sesiynau lleisiol yn y bore a’r prynhawn. Gyda’r nos, rydym yn cau ein gŵyl gyda chyngerdd sy’n arddangos talentau corau a cappella cymunedol, gyda rhaglen o gorau o bob rhan o’r DU a rhai lleol i chi eu mwynhau.
Byddwch yn gallu archebu ar gyfer digwyddiadau penodol pan fyddwn yn lansio’n tocynnau digwyddiad yn y flwyddyn newydd neu archebwch eich “Tocynnau Gŵyl” a fydd yn caniatáu mynediad i bob digwyddiad ar hyd yr ŵyl.
Lleoliadau:
Gwledd Ganu:The Scout Hut, Town Moor, Narberth. SA67 7AG
Gweithdai Canu: Bethesda Baptist Church, High St, Narberth SA67 7AP
Cyngerdd Olaf: St Andrews Church, 17 Church St, Narberth SA67 7BH
Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am fwy o gyhoeddiadau am artistiaid, perfformwyr a mwy dros yr wythnosau nesaf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag info@span-arts.org.uk neu ffoniwch 01843 869323