Dydd Sadwrn Awst 23ain 2025
2:00PM – 4:00PM | Caban y Sgowtiaid, Arberth | £10 / £8 consesiwn
Oed awgrymedig: 8+ | Lle i: 25 person
Beth sy’n digwydd pan fydd gosgeiddrwydd araf dawnsio butoh yn cwrdd â chyffyrddiad ysgafn brws paent? Pan fydd creadigrwydd yn arafu i gyflymder anadl, a chwyrlïad corff yn symud yn destun prynhawn o synfyfyrio artistig?
Mae Sesiynau Caban y Sgowtiaid SPAN yn eich gwahodd i brofi’r croestoriad unigryw hyn o ddisgyblaethau gyda ‘Phaentio Symudiad’, gweithdy ymgollol sy’n pontio sawl celfyddyd dan arweiniad yr hwyluswyr artistig Billy Maxwell-Taylor a Phoebe Lester. Mae’n wahoddiad i gymryd seibiant, arsylwi, ac i ymateb, nid mewn geiriau, ond gyda llinellau, lliw a greddf.
Gyda chefnlen o gerddoriaeth amgylchynol mewn gofod croesawgar wedi’i oleuo’n dyner, caiff chyfranogwyr eu gwahodd i fraslunio, paentio, neu ddarlunio yr hyn maent yn ei deimlo yn gymaint â’r hyn y maent yn ei weld. Mae’r symudiad byw, cyfuniad llifeiriol o acrobateg ymdroellog ac arafwch myfyriol butoh, ffurf o theatr dawns Japaneaidd, yn datblygu o’ch blaen fel breuddwyd ar gerdded. Cewch eich tywys yn dyner drwy’r broses gan ddefnyddio’r defnyddiau a ddarperir neu cewch ddod â’ch rhai eich hun (ie, hyd yn oed y rhai hir anghofiedig sy’n hel llwch gartref).
P’un ai’ch bod yn artist profiadol neu dim ond yn chwilfrydig i archwilio ffurfiau newydd o greadigrwydd, mae’r gweithdy yma wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch, yn dawelol ac ysbrydoledig, Nid oes pwysau i fod yn berffaith ond yn hytrach mae’r pwyslais ar gysylltiad, gyda’r gelfyddyd, gyda’r perfformwyr, a gyda’ch proses greadigol eich hun.
Mae Billy, sydd â blynyddoedd o brofiad mewn perfformiad ac arfer corfforol, yn disgrifio butoh fel “gwrthryfel yn erbyn techneg anhyblyg”, gan ddefnyddio symud fel modd i gysylltu gyda’n hamgylcheddau a chyda’n gilydd. “Mae tynerwch yn weithred radical,” medd Billy. “Gall hyn fod yn troi llaw yn araf, yn ymestyn tuag at yr haul, neu doddi i’r llawr dros bum munud. Rydym yn cynnig gofod i graffu ac i sylwi ar y byd yn fwy dwfn.”
Mae Phoebe, artist gweledol sy’n angerddol am greadigrwydd ar y cyd, yn gynhyrfus am bosibiliadau cyfuno disgyblaethau. “Byddwn ni i gyd yn gweld y symudiad yn wahanol, a dyna’r hud. Mae’n ymwneud â gollwng barn a manteisio ar y foment. Nid oes ffordd gywir nac anghywir.”
Mae’r gofod ei hun wedi’i drefnu’n ofalus i hyrwyddo cysur a chreadigrwydd, te cynnes, seiniau meddylgar, a’r rhyddid i symud o gwmpas neu swatio ble bynnag rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau, sgwrsio gyda phobl eraill, neu, yn syml, ymgolli’n dawel yn y cyfan.
Wrth wraidd hyn oll, mae’r sesiwn am arafu. Mae’n ymwneud â gweld y byd ychydig yn wahanol: yng nghromlin y fraich, mewn cwymp cysgod, ac yn gadael i’r foment honno fyw ymlaen trwy eich marc ar y dudalen.
Felly p’un ai y byddwch chi’n ail-afael yn eich brwsys neu’n gafael mewn pensil am y tro cyntaf, dewch fel yr ydych. Dewch i rannu ychydig o oriau tawel, ymgysylltiedig gyda grŵp bach o gyd-wneuthurwyr. Efallai y byddwch yn gadael gyda llun, neu efallai teimlad mwy dwys o bresenoldeb, a’r atgoffâd nad oes angen i greadigrwydd fod yn berffaith i fod yn ddwfn.
Tocynnau: Talwch yr hyn y gallwch (£10/£8) ac argymhellir archebu o flaen llaw i sicrhau’ch lle.
Am ragor o fanylion ac i archebu ewch i : span-arts.org.uk



