Fis Awst hwn, mae tref Arberth yn gwahodd teuluoedd a phobl greadigol fel ei gilydd i gamu i mewn i ddiwrnod llawn rhyfeddod o fytholeg, traddodiad, a llên gwerin Gymreig, wrth i Gelfyddydau SPAN  gyflwyno Dydd Gŵyl yr Haf, gŵyl fywiog ddwyieithog a chynhelir ar draws adeiladau Caban y Sgowtiaid a Chanolfan Celfyddydau SPAN.

Cynhelir Ddydd Gŵyl yr Haf ddydd Sadwrn 30 Awst, gan gynnig cymysgedd swynol o chwedleua, gweithdai ymarferol, a dathliad diwylliannol, y cyfan wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau’r Tylwyth Teg  a doethineb perlysiau’r haf a chwedlau a drosglwyddwyd ar hyd y cenedlaethau.

Yng Nghaban y Sgowtiaid rhwng 2 a 5 y prynhawn, bydd teuluoedd yn cael eu croesawu i ofod hamddenol a llawen, yn orlawn o weithgareddau dychmygus. O weithgareddau crefft wedi eu hysbrydoli gan chwedlau lleol, i chwedleua cyfareddol a helfa drysor chwareus, mae’r prynhawn wedi’i ddylunio i ddifyrru plant ac oedolion fel ei gilydd. Mae’r pwyslais ar gysylltiad: gyda’n gilydd, gyda natur, a chyda’r straeon sy’n siapio ein hymdeimlad o le. Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bob oedran, gyda mynediad ar gael ar sail ‘Talwch yr hyn y Gallwch’ yn dechrau o £3 y person.

Ar yr un pryd, dim ond ychydig gamau i ffwrdd yn adeilad Celfyddydau SPAN, bydd yr artist Ffion Taverner yn arwain Gweithdy Lliwio Naturiol i oedolion o 1:30pm tan 4pm. Mae’r sesiwn greadigol ddigynnwrf hon yn gwahodd y rhai sy’n cymryd rhan i archwilio technegau lliwio traddodiadol gan ddefnyddio blodau a pherlysiau, llawer ohonynt yn rhai sy’n tyfu yn ein gerddi ni’n hunain. Mae’r gweithdy yn gwau ynghyd arfer artistig ag archwilio llên gwerin planhigion Cymru, gan gynnig ennyd dawel ond pwerus o gysylltiad â’r tir a’i straeon. Eto, mae mynediad ar sail ‘Talwch yr hyn y Gallwch’, o £5.

Mae Dydd Gŵyl yr Haf yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd, a chymuned, diwrnod lle croesawir pawb i archwilio cyfoeth traddodiadau haf Cymreig mewn awyrgylch hamddenol a chynhwysol. Gyda lluniaeth ysgafn ar gael yn y ddau le a chyflwyniad dwyieithog gydol y dydd, dyma ddiwrnod sy’n eich gwahodd i oedi, chwarae, ac ailddarganfod hud y tymor.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i  www.span-arts.org.uk


Manylion Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Sadwrn Awst 30

Amser: 1:30pm – 5pm

Scroll to Top