Codi Ei Llais: Portread Cyfunol o Fod yn Fam
Mae Ella Starling, artist portreadau a ffigurol o Sir Benfro, yn cyflwyno Codi ei Llais:Potread Cyfunol o Fod yn Fam, corff newydd o waith sy’n archwilio’r trawsnewid i famolaeth mewn cydweithrediad â mamau ar draws Sir Benfro.
Gan weithio yn bennaf mewn paent olew a siarcol, mae Starling yn creu portreadau agos, llawn emosiwn sy’n creu lle ar gyfer profiadau nas dywedir yn aml. Yn seiliedig ar gyfweliadau manwl gyda thair mam leol, ochr yn ochr â Chylchoedd Mamau a’i phrofiad byw ei hun, mae’r prosiect yn cynnig portread gonest o’r newid seicolegol ac emosiynol dwfn sydd yn dod gyda dod yn fam.
“Rydw i eisiau creu cynrychiolaethau gonest a phersonol o famolaeth sy’n herio’r naratifau or-syml a chyfyngedig a welwn yn aml mewn diwylliant gweledol”
Trwy sgwrs estynedig ac ystyriaeth gydweithredol, mae’r gwaith yn datgelu sut mae nifer o fenywod yn symud trwy enedigaeth a mamolaeth gynnar heb le i brosesu’r hyn a brofwyd ganddynt. Symuda’r ffocws yn gyflym at y plentyn, ac eto yn anaml y bydd trawsnewidiad mewnol a hyd yn oed trawma’r fam yn cael eu cydnabod.
Mae un portread yn tynnu ar ddelwedd bwerus a ddisgrifir yn ystod y broses, o ogof dywyll gyda’r fam yn edrych i lawr ar eu corff torredig. Mae’r darn yn dal cryfder a bregusrwydd mewn tensiwn, gan gydnabod bod geni yn rhoi bywyd ac, ar adegau, yn gallu dadsefydlu’n ddwfn hefyd.
Wedi’i ddatblygu dros chwe mis a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Codi Ei Llais yn argymell cefnogaeth famol wedi’i integreiddio yn y gymuned.
“Os na fydd cymorth llesiant i famau wedi’i integreiddio o fewn ein cymunedau, byddwn yn parhau i weld mamau yn dioddef mewn tawelwch ac ystadegau sy’n pryderu’n fwyfwy ynghylch iechyd meddwl mamol.”
Mae’r arddangosfa’n gwahodd cynulleidfaoedd i sgwrs agos a brys am fod yn fam, gofal mamolaeth a gofal cyfunol.
Yr Artist
Mae Ella Starling yn artist portreadau a ffigurol wedi’i lleoli yn Sir Benfro. Graddedig Darlunio o Brifysgol Falmouth, mae ei harfer yn canolbwyntio ar bortreadau, gan archwilio testunau emosiynol cymhleth ochr yn ochr â gwaith comisiwn, wedi’i seilio ar arfer wedi’i wreiddio yn ymgysylltiad cymdeithasol. Mae hi hefyd yn dysgu bywluniad yn Nhyddewi.
Manylion digwyddiad:
Dyddiad: Ebrill 15 – Ebrill 22
Lleoliad: Caban y Sgowtiaid, Arberth SA67 7AG, a Chelfyddydau SPAN, Arberth SA67 7AG
Amser: Lansiad Agor Croeso Mercher
Dydd Mercher Ebrill 15fed, 16:00 – 19:00
Yng Nghelfyddydau SPAN
Gweithdy Croeso Mercher:
Dydd Mercher Ebrill 22ain 10:00 – 12:30
Pris: Am ddim
Archebu: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.



