Arddangosfa Gelf Barddoniaeth fel Protest yng Nghelfyddydau SPAN.

Arberth, Sir Benfro – Bydd ‘Mae Gwrthwynebiad yn Ffrwythlon’, arddangosfa o farddoniaeth brotest wedi ei gyflwyno fel celf weledol gan Feirdd Arberth, yn agor yng Nghelfyddydau SPAN yn Arberth ar Fai 6 rhwng 2.30 a 4.30yp. Bydd yr arddangosfa, sy’n dod â barddoniaeth a gwaith celf cysylltiedig at ei gilydd, yn rhedeg tan Fehefin 4. Mynediad am ddim.

Mae croeso cynnes i ymwelwyr fynychu digwyddiad Croeso Mercher arbennig ar Fai 27 am 10.30yb, gyda darlleniadau byw gan y beirdd.

Mae’r arddangosfa yn amlygu gwaith newydd a gwaith wedi’i ddatblygu gan chwe bardd — Bean Sawyer, Jane Campbell, Jackie Biggs, Jean Riley, Christian Donovan, ac Emma Baines. Ers digwyddiadau cynt yn Amgueddfa Arberth yn yr haf llynedd ac Oriel y Parc, Tyddewi yn gynharach eleni, mae’r artistiaid wedi ehangu’r casgliad gyda darnau newydd.

Crëwyd ‘Mae Gwrthwynebiad yn Ffrwythlon’ fel ymateb i anghyfiawnderau gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y byd heddiw. Nod y beirdd yw ysbrydoli myfyrdod ac annog cynulleidfaoedd i gwestiynu a herio’r status quo trwy eu gwaith. Mae’r arddangosfa’n amlygu sut gall  cydweithrediad a chreadigrwydd weithredu fel offer pwerus ar gyfer newid, tra’n cynnal teimlad o obaith.

Mae cynulleidfaoedd blaenorol wedi ymateb yn gryf i’r arddangosfa:

“Arddangosfa mor bwerus – peidiwch â’i cholli. Barddoniaeth fel protest – gan gasgliad o feirdd gwych o Sir Benfro. Barddoniaeth fel gwrthwynebiad yn erbyn tawelwch – ac mor hardd hefyd – yn dystiolaeth – yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n digwydd yn Gaza.”

— Yr Athro Emerita Menna Elfyn, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywydd Wales PEN Cymru.

“Mae’r arddangosfa yn wirioneddol bwerus ac yn hynod ingol. Roedd yn rhaid i mi eistedd yno am ychydig i ganiatáu iddo lanio; gwnaeth y cerddi yr hyn y dylai cerddi ei wneud — fy nharo’n stond.”

— Kate Sherringer, Grŵp Amnest Gogledd Penfro

“Gwaith sy’n ysgogi’r meddwl, gan feirdd rhagorol… Amrywiaeth fawr hefyd, yn y ffurfiau celf weledol.”

— Diana Powell, Awdur

Mae ymwelwyr wedi rhannu eu sylwadau yn y Llyfr Dymuniadau hefyd:

“Arddangosfa mor bwerus. Hardd ac ingol.”

“Bob tro ‘dw i’n dod ‘dw i’n darllen un neu ddau gerdd y tro. Maen nhw’n rhoi mwy i fi.”

“ Diolch am y cyfle i oedi, i feddwkl ac i fyfyrio”

Mae croeso i bawb brofi’r arddangosfa yma sy’n ingol ac yn ysgogi’r meddwl. Mwy am Feirdd Arberth fan yma:
https://www.facebook.com/profile.php?id=61578271421374

ac yma: https://narberthpoets.wordpress.com/

Manylion digwyddiad:

Dyddiad: Mai 6  2026

Lleoliad: Celfyddydau SPAN Cyf, Gwaun y Dref, Arbrth, Sir Benfro, SA67 7AG

Tocynnau:Am ddim

Ar gyfer deiliaid tocynnau sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Cysylltwch â 01834 869323 i archebu tocyn eich gofalwr

DONATE





Scroll to Top