
Ar ôl yr ymateb cadarnhaol i ddigwyddiadau Parti Arti SPAN ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol, roeddem wrth ein bodd i lansio Sesiynau’r Ystafell Werdd, cyfres newydd o weithdai’n cynnig mynediad at sesiynau datblygiad proffesiynol i weithwyr creadigol llawrydd o Orllewin Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant The Art of Fundraising, The Art of Marketing fydd y sesiwn nesaf. Sylwer mai Saesneg yw iaith y sesiynau.
Mae’r sesiynau Ystafell Werdd yn gyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar artistiaid. Fe’u cynhelir gan dîm SPAN gan edrych ar ystod o sgiliau proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad i amrywiaeth o feysydd, o godi arian i hyrwyddo.
Ymunwch â ni ar gyfer yr ail sesiwn yn y gyfres, sef The Art of Marketing, dan arweiniad Samara Van Rijswijk ac Evangeline Morris. Mae’r ddwy yn gweithio ar y tîm Marchnata yn SPAN yn ogystal â bod yn Artistiaid gweithredol. Mae ganddynt wybodaeth helaeth o’r offer a’r triciau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu arddull farchnata broffesiynol ac ymarferol fel artist llawrydd a rhoi hwb i’ch gwelededd. Ymunwch â nhw ar gyfer y sesiwn hon i ddysgu am agweddau allweddol hunan-hyrwyddo gan gynnwys datblygu gwefannau, postio allan, a chyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â gwybodaeth am offer am ddim i’ch helpu i wneud eich stori yn gofiadwy.
Ymunwch â ni ddydd Llun 11 Tachwedd o 6pm tan 8pm yn adeilad Celfyddydau SPAN, Arberth am y sesiwn 2 awr. Mae’r sesiynau hyn AM DDIM ond mae angen archebu ymlaen llaw. Am fwy o wybodaeth am y gweithdai ac i archebu lle, ewch i span-arts.org.uk neu e-bostiwch info@spanarts.org.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r cyfarfodydd hyn. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol, Facebook: @spanarts ac Instagram: @spanartsnarberth, am ddiweddariadau a chyhoeddiadau am weithdai sydd ar ddod.
Manylion Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Llun, Tachwedd 11eg
Amser: 6pm tan 8pm
Pris: AM DDIM, ond rhaid archebu ymlaen llaw
