Camwch i Hud Shakespeare yr Haf Hwn gyda Pherfformiad Celfyddydau SPAN o The Comedy of Errors yn yr Awyr Agored

Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad hudolus o’r Tempest llynedd, mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd i groesawu’r Festival Players yn ôl ar gyfer noson arall o Shakespeare yn yr awyr agored a hynny ar dir godidog Lampeter House ger Arberth. Cynhyrchiad eleni:

 

Dydd Gwener Mehefin 12fed| Lampeter House, Arberth | Drysau’n agor 6pm | Perfformiad yn cychwyn 7pm

 

Yn un o ddramâu cynharaf Shakespeare, mae’r Comedy of Errors yn dilyn hynt a helynt dau bâr o efeilliaid – dau frawd sy’n efeilliaid a’u dau was, sydd hefyd yn efeilliaid – sy’n cael eu gwahanu gan longddrylliad. Pan, heb yn wybod iddyn nhw, maen nhw’n cyrraedd yr un dref ar yr un dydd, mae corwynt o gymhlethdod yn datblygu.

 

Gyda chamadnabyddiaeth yn arwain at anhrefn comig, ymddengys bod gwŷr yn cwympo mewn cariad â’r bobl anghywir, mae dyledion heb eu talu, ac mae gweision yn cloi eu meistri allan o’u cartrefi eu hunain. Wrth i’r dryswch gynyddu, mae’r ddrama yn archwilio themâu hunaniaeth, teulu a pherthyn.

 

Mae’r Festival Players yn dod â’r ffars hwyliog hon yn fyw, gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol, storïa sionc, gwisgoedd traddodiadol a llawer o hiwmor, fel rhan o’u taith theatr awyr-agored haf 2026 (eu 41ain).

Lleoliad Hudolus ar Gyfer Noson Ganol Haf

 

Mae Lampeter House yn cynnig y llwyfan perffaith ar gyfer y noson fythgofiadwy hon. Yn swatio rhwng coed tal a gerddi llawn cymeriad, mae’r lleoliad amffitheatr agos atoch yn argoeli profiad wirioneddol atmosfferig.  P’un ai’ch bod yn selog ar Shakespeare ar hyd eich oes neu’n newydd-ddyfodiad i’w waith, mae’r perfformiad hwn yn cynnig cyfle i fwynhau theatr o’r radd flaenaf dan y wybren agored.

 

 

Bwyd, Diod ac Ychydig Gysur

 

Gwnewch eich noson yn gyflawn gyda swper blasus cyn y sioe. Bydd cawl hafaidd poeth gyda bara a chaws ar gael i archebu ymlaen llaw am £6 yn unig. Mae dewis llysieuol ac opsiynau dietegol eraill ar gael — nodwch eich dewis wrth archebu ar-lein neu dros y ffôn. Bydd bar llawn a lluniaeth ysgafn hefyd ar gael trwy’r noson.

 

Darperir nifer cyfyngedig o fatiau a seddi ar y llawr, ond anogir cynulleidfaoedd i ddod â’u blancedi picnic neu gadeiriau â chefn isel eu hunain i gael y cysur mwyaf. Bydd y perfformiad yn mynd ymlaen boed glaw neu hindda, felly gwisgwch yn briodol y ar gyfer y tywydd.

 

 

Archebu’n hanfodol – Mae Hyn yn Uchafbwynt Haf na Ddylid ei Golli

 

Mae Shakespeare Awyr Agored wedi dod yn un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf disgwyliedig Celfyddydau SPAN, a disgwylir i docynnau werthu’n gyflym. I sicrhau’ch lle ewch i www.span-arts.org.uk neu ffoniwch 01834 869323.

 

Ar gyfer anghenion mynediad neu gymorth ychwanegol, anfonwch e-bost atom ar info@span-arts.org.uk wrth archebu—bydd ein tîm yn falch o helpu.

 

 

 

Manylion Digwyddiad:

 

Dyddiad: Dydd Gwener Mehefin 12 June 2026

Amser: Gerddi’n agor am 6 pm, sioe yn cychwyn am 7 pm

Pris: Oedolion £15.00, Consesiynau £13.00, Tocyn Teulu £45 (Yn cynnwys 4 tocyn. Rhaid i un fod yn blentyn)

Lleoliad: Lampeter House, Llanbedr Efelfre, Arberth, SA67 8UQ.

Ar gyfer deiliaid tocyn sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Cysylltwch â 01834 869323 i archebu tocyn eich gofalwr.

 

Event Details:

 

Date: Friday 12 June 2026

Time: Grounds open at 6 pm, show starts at 7 pm

Pricing: Adults £15.00, Concessions £13.00, Family Ticket £45 (covers 4 tickets. Must include 1 child)

Location: Lampeter House, Lampeter Velfrey, Narberth, SA67 8UQ.

For ticket holders who need access support to attend, we offer a free ticket for their companion, carer or personal assistant. Contact 01834 869323 to book your carers ticket.

DONATE





Scroll to Top