Swyn: Sioe Syrcas a Dawns Awyr Agored Hudolus sy’n Dathlu Menywod, Defodau a Bywyd Gwledig yn Dod i Sir Benfro yr Haf Hwn.
Ym mis Awst, mae SPAN Arts yn falch o gyflwyno Swyn, perfformiad awyr agored newydd syfrdanol gan Collective Flight Syrcas, a lwyfannir yng nghanol gerddi gwyrddlas a thangnefeddus Coedwig Colby. Wedi’i amgylchynu gan goed uchel, cân adar, a hud tirwedd Sir Benfro, mae’r sioe fythgofiadwy hon yn gwahodd cynulleidfaoedd i oedi, ymgasglu ac ymgysylltu.
Manylion Digwyddiad:
Lleoliad: Y Ddôl, Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro.
Dyddiad: Dydd Sadwrn Awst 2il 2025
Amseroedd: Perfformiad 1 – 1pm | Perfformiad 2 – 4pm (tua 45 munud yr un)
Tocynnau: Talwch yr Hyn y Gallwch – o £5 i fyny
Ar gyfer deiliaid tocynnau sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Ffoniwch 01834 869323 i archebu eich tocyn gofalwyr.
Mae Swyn yn brofiad atmosfferig, amlsynhwyraidd sy’n anrhydeddu’r menywod a’r gwaith a ddaeth o’n blaenau. Trwy gyfuniad pwerus o syrcas gyfoes, dawns acrobatig, chwedleua dwyieithog, a chaneuon gwreiddiol, mae’r perfformiad hwn yn dwyn i’r meddwl themâu cof, achau a pherthyn. Perfformir y sioe ar rig awyr agored, wedi’i hamgylchynu gan bropiau symbolaidd – bwcedi o ddŵr, potiau mawr o flodau – ac i gyfeiliant trac sain pwrpasol sy’n tynnu’r gynulleidfa i fyd bythol ac uniongyrchol.
Wedi ei hysbrydoli gan arfordir Sir Benfro, ein hetifeddiaeth Geltaidd, a phrofiadau bywyd yr artistiaid eu hunain, mae Swyn yn archwilio defodau bywyd gwledig a rhythmau natur. Mae’n dathlu pethau tymhorol a defod, gan gynnig myfyrdod tawel, dwfn ar y berthynas rhwng tir, llafur, a’r corff benywaidd.
Mae’r sioe wedi’i chreu gan Collective Flight Syrcas – cydweithrediad rhwng tri artist o Sir Benfro, Hannah, Meg ac Emma – wnaeth gyfarfod trwy gariad cyffredin at syrcas a chysylltiad dwfn â thirwedd wledig Gorllewin Cymru. Ganwyd eu cydweithfa allan o awydd i greu perfformiad sy’n teimlo’n bersonol ac yn wleidyddol, wedi’i wreiddio mewn diwylliant lleol ond sy’n atseinio â themâu cyffredinol. Mae eu gwaith yn dwyn ynghyd symudiad, llais ac adrodd straeon gweledol i greu rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw a theimladwy.
Anogir cynulleidfaoedd i ddod â blanced neu gadair wersylla, i wisgo’n barod am unrhyw dywydd ac i ymlacio yn amgylchedd hardd dôl Colby ar gyfer y perfformiad awyr agored hwn. P’un ai’ch bod yn frwdfrydig am syrcas, yn hoff o ddawns, neu’n chwilio am rywbeth arbennig ym myd natur, mae Swyn yn addo bod yn brynhawn dwys a chyffrous i bob oedran.