Mae’r Sêl Fawr Blanhigion yn Dychwelyd i Arberth yn 2026.
Dawn tyfu a dwylo creadigol yn uno wrth i Sêl Fawr Blanhigion hoff Gorllewin Cymru ddychwelyd ar gyfer 2026, gan ddod â’r goreuon o blanhigion, crefftau ac ysbryd cymunedol at ei gilydd.
Yn digwydd yn Ysgol Gynradd Arberth, mae’r digwyddiad eleni yn cynnig lleoliad mwy, yn gymysgedd bywiog o dyfwyr planhigion lleol, meithrinfeydd planhigion a gwneuthurwyr eco-ymwybodol. Fel un o’r digwyddiadau cyntaf o’r fath yn y tymor mae’r sêl yn gyrchfan sy’n denu garddwyr o bob lefel.
Gall ymwelwyr ddisgwyl amrywiaeth eang o blanhigion, o rhai suddlon i’w gosod ar silff ffenest a had-blanhigion i fathau mwy anarferol ac arbenigol, yn berffaith i adnewyddu cartrefi a gerddi ar gyfer y gwanwyn. Ochr yn ochr â’r planhigion, bydd ffair grefft yn dangos amrywiaeth o gynhyrchion lleol, amgylcheddol ymwybodol, gan gynnwys sebonau wedi’u gwneud â llaw, tecstilau a chrefftau coed.
Yn fwy na marchnad, mae’r Sêl Fawr Blanhigion yn ddiwrnod allan i’r teulu cyfan. Yn ogystal â’r stondinau bydd bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol, cerddoriaeth fyw ac adloniant, gan greu awyrgylch groesawgar a bywiog i bob oed.
Gwahoddir cynhyrchwyr lleol, meithrinfeydd planhigion, crefftwyr a gwneuthurwyr i fod yn rhan o’r digwyddiad. Mae Celfyddydau SPAN yn croesawu ymholiadau gan stondinwyr ar hyn o bryd, yn enwedig rhai sy’n gweithio gyda chynhyrchion cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd.
Manylion digwyddiad:
Dyddiad: Mai 2il
Amser: 10am – 3pm
Lleoliad: Ysgol Gynradd Arberth, Ffordd Jesse, Arberth. SA67 7FE
Pris: Argymhellir rhodd o £2 wrth y fynedfa
Ymholiadau stondinwyr: vco@span-arts.org.uk



