Dewch i ymuno â theulu SPAN a helpwch ni i gadw ein swyddfeydd a’n stiwdio yn Arberth yn barod i groesawu’r gymuned. 

Manylion: 2.5 awr yr wythnos @ Cyflog Byw Gwirioneddol £12.60 yr awr 

Lleoliad: Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth. 

Amseroedd: yn ddelfrydol diwrnod neu noson benodol bob wythnos, ond gyda hyblygrwydd ar y ddwy ochr, gan ddibynnu ar weithgareddau SPAN a’ch anghenion personol. 

Rôl: i lanhau swyddfeydd, stiwdio, cegin a thoiled SPAN bob wythnos, gan sicrhau eu bod yn groesawgar i’r cyhoedd. Darperir yr holl offer a deunyddiau glanhau. 

Ymgeisio: anfonwch e-bost ymholiad at Vicki yn finance@span-arts.org.uk yn egluro eich diddordeb yn y rôl erbyn dydd Mercher, 16 Gorffennaf. 

Scroll to Top