Ymddangosiad: Gweithdai Creadigol yn Dathlu Lleisiau Cwiar a Chysylltiad Cymunedol
Mae cyfres newydd o weithdai creadigol dan yr enw Ymddangosiad yn dod â phobl at ei gilydd yn Sir Benfro trwy gelf, mynegiad a phrofiad a rennir. Wedi’i greu gan grŵp o unigolion LHDTC+, mae Ymddangosiad yn cynnig lle i ddod allan i’r gymuned ehangach ac i uno pobl cwiar ac eraill trwy greadigedd.
Mae’r rhaglen yn gwahodd cyfranogwyr LHDTC+ a chyfeillion (16+) i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol a gynlluniwyd i adeiladu cysylltiad, hyder a chydgefnogaeth.
Mae un gweithdy, dan arweiniad yr artist a thiwtor gwydr lliw Bean Sawyer, yn gwahodd cyfranogwyr i greu eu gwydr lliw eu hunain ac i greu llusern tri dimensiwn gan ddefnyddio papur gloyw copr a thechneg sodro. Gall gyfranogwyr ddewis o batrymau a ddarperir, neu gallant ddatblygu eu dyluniadau eu hunain i adlewyrchu eu steil bersonol. Nid oes angen profiad blaenorol a darperir yr holl ddefnyddiau.
Mae gweithdy arall, a arweinir gan yr artist, academydd a seicotherapydd celf cwiar Emily Laurens, yn archwilio symbolaeth penynnau – baneri a ddefnyddid yn draddodiadol gan longau a’r lluoedd arfog i gyfathrebu enw ac ystyr. Bydd cyfranogwyr yn “cwiareiddio” y pennyn, gan greu baneri ffabrig sy’n cynrychioli eu bywydau a’u hunaniaethau, gan gario negeseuon o gyd-gefnogaeth ac undod. Mae’r sesiwn yn cynnwys technegau gwnïo syml ochr yn ochr â phaent ffabrig, applique a phrintio..
Bydd y cyfansoddwr caneuon Anna Sherratt yn arwain gweithdy hygyrch yn canolbwyntio ar ysgrifennu geiriau caneuon wedi’u hysbrydoli gan themâu gwydnwch a bywyd cwiar. Agored i gerddorion profiadol a dechreuwyr llwyr, mae’r sesiwn yn cynnig dulliau ymarferol i greu caneuon ystyrlon a chofiadwy mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar.
Bydd Ymddangosiad yn cyrraedd ei uchafbwynt mewn digwyddiad arbennig o ymgynnull ddydd Gwener 28 Mawrth. Mae Ymddangosiad: Y Cynulliad yn nodi cau tymor Creadigaethau Cwiar ac yn dathlu dychweliad y goleuni.
Mae’r digwyddiad olaf hwn yn cynnig cyfle i ddod ynghyd, myfyrio a rhannu’r gwaith creadigol a ddatblygwyd yn ystod y tymor — gan gynnwys posteri, baneri, llusernau a chaneuon gwreiddiol. Gweinir te prynhawn o 5.30pm, gyda ‘dawnsio te’ dewisol yn Ystafell yr Ardd. Am 7 o’r gloch, bydd Defod Goleuo Llusernau, gyda chaneuon gwreiddiol a grëwyd yn ystod gweithdy Ymddangosiad: Marwydos yn Codi — eiliad gyfunol o fyfyrdod, dathlu ac adnewyddu.
Mae Ymddangosiad wedi’i wreiddio yn y gred y gall creadigrwydd feithrin dealltwriaeth, gwelededd a chysylltiad cymunedol. Drwy agor y gweithdai hyn i bobl LHDTC+ a’u cefnogwyr, bwriada’r rhaglen adeiladu pontydd, dathlu hunaniaethau amrywiol a chreu mannau cyffredin ar gyfer mynegiant.
Archebu: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd



