
Comisiwn Straeon Cariad at Natur
O gelf traeth a thrychfilod, i syrcas ac ecoleg cwiar, mae’r Comisiwn Straeon Cariad at Natur gan Gelfyddydau SPAN yn Sir Benfro wedi archwilio cysylltiad y sir â’r amgylchedd.
Mae comisiwn amgylcheddol Straeon Cariad at Natur yn ysgogi sgyrsiau am yr amgylchedd a’r Argyfwng Hinsawdd yn ein cymunedau gwledig trwy brosiectau creadigol dan arweiniad artistiaid. Mae’r comisiwn yn cefnogi pobl greadigol i weithio’n lleol a chysylltu â’r gymuned i greu llwyfan i leisiau a thrafodaethau amrywiol.
Mae’r comisiwn aml-gelf hwn wedi cefnogi ffilmiau a ffilmiau ffug-ddogfen, gweithdai a sioeau syrcas, arddangosfeydd ffotograffiaeth, gosodiadau sain, prosiectau tecstilau, perfformiad corawl torfol, a chreu paent naturiol i enwi ychydig yn unig o’r ymatebion amrywiol i’r briff ‘Yr Amgylchedd’.
Y Comisiynau Straeon Cariad at Natur
Songs Of The Land / Canueon Y Tir gan James Williams
Natural Consequences gan Gillian Stevens, Geraldine Hurl, Jackie Biggs, Tina Gould
The Voice of The River gan Katie Jones
The Gentle Painting Project gan Rhiannon Rees
Becoming Nature gan Lou Luddington
Mothers of Nature gan Hannah Darby, Meg Haines, Emma Stevens
Date Nature gan Emily Laurens.
A Gathering Tide gan Bronwen Gwillum & Gilly Booth – film coming soon.
Our Branch the Stopped Singing gan Billy Maxwell Taylor
Songlines gan Charlotte Cortazzi & Sue Kullai
The Pull gan Sam Walton
Seed to Flight gan Sarah Sharpe & Louise Carey
Cefnogwch Gelfyddydau ar gyfer Newid Cymdeithasol gyda rhodd untro!
Gyda’i gilydd, mae eich rhoddion personol CHI yn ddigon i ariannu hanner comisiwn amgylcheddol Straeon Cariad at Natur. Mae hyn yn golygu cyflog teg i artistiaid lleol ddatblygu prosiect celfyddydau amgylcheddol wedi’i ysbrydoli gan eich Sir Benfro godidog chi.
Rydym yn wirioneddol werthfawrogi pob rhodd a wneir gan ei fod yn ein helpu i gyflawni mwy ar gyfer ein cymuned gyfan. Bydd beth bynnag y gallwch ei roi heddiw yn ein helpu i wneud llawer iawn!




