Shakespeare Awyr Agored – As You like It

Cariad yn blodeuo yn y goedwig wrth i Shakespeare Awyr Agored Celfyddydau SPAN ddychwelyg gydag ‘As You Like It’.

Ar ôl hyfrydwch ‘The Tempest’ y llynedd, mae’r Festival Players yn dychwelyd i diroedd prydferth Lampeter House i gyflwyno ‘As You Like It’, stori garu ddramatig a dryslyd sy’n troi rheolau confensiynol rhamant ar eu pen.

Manylion digwyddiad:

Dyddiad: Dydd Gwener Mehefin 13 

Amser: Lleoliad ar agor am 6 pm, sioe yn cychwyn am 7 pm

Pris: Oedolion £15.00, Consesiwn £13.00, Tocyn teulu £45 (pris am 4 tocyn. Rhaid cynnwys 1 plentyn)

Bwyd poeth – i’w archebu ymlaen llaw – Cawl, Caws a bara (addas ar gyfer llysieuwyr, opsiynau heb glwten/heb gynnyrch llaeth/figan ar gael): £6

Lleoliad: Lampeter House, Llanbedr Efelfre, Arberth, SA67 8UQ.

Ar gyfer deiliaid tocynnau sydd angen cymorth mynediad i fynychu, rydym yn cynnig tocyn am ddim i’w cydymaith, gofalwr neu gynorthwyydd personol. Cysylltwch â 01834 869323 i archebu eich tocyn gofalwr.

Mae’n bleser gan SPAN gyhoeddi bod eu cyflwyniad Shakespeare awyr agored hynod boblogaidd yn dychwelyd ar gyfer 2025. Mae ‘As You Like It’ yn archwilio themâu alltudiaeth, hunaniaeth a chariad, mewn drama sy’n archwilio rolau rhyweddhylifol a chymhlethdodau perthnasoedd rhamantus wrth i’r cymeriadau lywio pŵer trawsnewidiol cariad a natur. Mae Fforest Arden yn gefndir lle mae cymeriadau yn dianc rhag cyfyngiadau cymdeithasol ac yn darganfod eu gwir hun yn y ddrama hon lle dywedir “All the world’s a stage, and all the men and women only players.”

Rydym wrth ein bodd y  bydd y Festival Players yn anrhydeddu’r llwyfan unwaith eto eleni. Dan nawdd y Fonesig uchel ei pharch Judi Dench, mae’r Festival Players, â 60 mlynedd o brofiad cyfunol o theatr deithiol broffesiynol.

Ymunwch â ni ar noson o haf yng nghefndir eidylig Lampeter House, ger Arberth. Yn gorwedd ymhlith coed mawreddog a thiroedd swynol gyda’i amffitheatr fach, nid oes lle gwell i fwynhau hyfrydwch gwaith ysblennydd Shakespeare.

Bydd bar gyda dewis o fwyd, byrbrydau a lluniaeth poeth ar gael drwy gydol y noson. Darperir nifer cyfyngedig o seddi a matiau i’r gynulleidfa eistedd ar y llawr, ond mae croeso i bobl ddod â’u seddi eu hunain er mwyn cysur ychwanegol. Cynhelir y perfformiad yn yr awyr agored, ac anogir aelodau’r gynulleidfa i ddod yn barod ar gyfer pob tywydd, bydd y sioe yn mynd yn ei blaen beth bynnag fo’r amodau.

Yn awr gallwch archebu bwyd poeth gennym pan fyddwch yn prynu’ch tocyn As You Like It Shakespeare awyr agored naill ai ar-lein neu dros y ffôn! Mwynhewch gawl haf gyda bara a chaws am £6, ar gael o 6pm pan fydd drysau’n agor. Ychwanegwch eich swper cawl at eich archeb tocynnau, a nodwch eich gofynion dietegol wrth dalu.

Oherwydd ei boblogrwydd, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw i sicrhau’ch lle yn y digwyddiad hudolus hwn. Mae tocynnau ar gael nawr i’w harchebu yn span-arts.org.uk, neu ffoniwch 01834 869323.

SPAN MASTER LOGO
Scroll to Top