project

completed project, project

Creu a Chysylltu

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith Celfyddydau Span erioed, fedrem ni ddim bodoli hebddynt. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr naill ai’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl (45%+), yn 65 oed neu’n hŷn, neu’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n golygu fod ein tîm o wirfoddolwyr yn perthyn i grŵp bregus wedi’u huno gan ddiddordeb cyffredin yn y celfyddydau yn hytrach na gan ddaearyddiaeth. Er bod gan Gelfyddydau Span rhaglen wirfoddoli hirsefydlog, rydym wedi bod yn rhedeg Creu a Chysylltu, ein Prosiect Gwirfoddolwyr, wedi’i ariannu gan gronfa Gwella Sir Benfro, ers Ionawr 2019. Cyllid a godwyd gan Dreth Ail Gartrefi Cyngor Sir Penfro yw Gwella Sir Benfro ac mae wedi bod o gymorth i Gelfyddydau Span i ymestyn ein Cynllun Gwirfoddolwyr ar draws y sir ac i gyrraedd ardaloedd newydd sydd wedi eu heffeithio’n arw gan berchenogaeth ail-gartrefi. Mae Creu a Chysylltu yn creu mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan yn y celfyddydau trwy brofiadau gwirfoddoli diddorol ac yn helpu pobl i gyfrannu at adfywiad a chyfoethogi bywyd yn ein cymunedau. “I'd just like to say that I've volunteered for a couple of other organisations and that the experience as a volunteer with Span has been by far [...]
completed project

Map Digi Penfro

Map digidol ar-lein yw Map Digi Penfro sy’n caniatáu i bobl gofnodi gwybodaeth sy’n bwysig iddyn nhw am leoliadau lle maen nhw’n byw neu’n teithio drwyddynt. Gellir cofnodi gwybodaeth ar ffurf testun neu ddelwedd gan gynnwys ffotograffau, lluniau, recordiadau sain- hyd yn oed ffilmiau byrion gan gofnodi persbectif, atgofion, straeon, data ayb am y lleoliad. Gweld y map. Datblygwyd y prosiect yn ystod 2019 fel rhan o Span Digidol, ein prosiect celf digidol dwy flynedd gan gychwyn gyda phenwythnos dwys yng Ngarn Fawr yng Ngorffennaf 2019 gyda gweithdai undydd i ddilyn yn Arberth, Aber Llydan a Threfdraeth.. Ym mhob achlysur aeth criw o blant ysgol a /neu drigolion lleol am dro yn eu milltir sgwâr gan gofnodi pethau ar y map yn ymwneud â hanes lleol, natur, daeareg a’u hatgofion ac argraffiadau nhw eu hunain. O ganlyniad mae gennym argraff gyfareddol, amlweddog o’r lleoliad. A chawsom lawer o hwyl yn ei greu! Erys y map ar-lein fodd bynnag, ac mae’n dal yn bosibl ychwanegu ato. Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae cyfarwyddiadau ar y safle. Sut i gymryd rhan Os ydych yn gaeth i’ch cartref ac yn chwilio am rywbeth i’w wneud beth am fwrw golwg ar y map? Mae llawer
completed project

Corau Gofalgar

Rhaglen o weithdai canu mewn lleoliadau gofal yn Sir Benfro yw Corau Gofalgar  gan dargedu pobl hŷn a rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’r gweithdai wedi’u cynnal, pan mae ariannu wedi caniatáu hynny, ers 2015. Mae Corau Gofalgar yn manteisio ar rym adferol canu i gyflawni budd cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r rhaglen yma o weithdai canu wedi ei phrofi ei hun yn llwyddiant enfawr ac yn arf bwerus i wella llesiant. "Having the singing in the lounge has been like a ray of sunshine on a grey day."
current project

Côr Pawb

Côr Pawb Mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd o gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn cynnal digwyddiad corawl undydd llawn llawenydd gan wahodd pawb i godi eu lleisiau a chydganu i ddathlu cymuned, creadigrwydd, a chysylltiad. Mae’n digwydd yn HaverHub, lleoliad cymunedol bywiog yng nghanol Hwlffordd, amcan y  cyfarfod cerddorol unigryw hwn yw bod yn gynhwysol, yn ddyrchafol ac yn agored i bawb. P’un ai ‘ch bod chi’n ganwr profiadol neu’n hollol newydd i gerddoriaeth gorawl, hanfod Côr Pawb yw troi fyny, ymuno, a chael hwyl. Dan arweiniad dau arweinydd côr ysbrydoledig, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu caneuon newydd, gwrthgyferbyniol, mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r gweithdy’n cyrraedd yr anterth gyda rhannu anffurfiol am 4yp, lle mae teulu a ffrindiau’n cael eu gwahodd yn gynnes i ddod i fynychu a mwynhau perfformiad bach o’r hyn y mae’r grŵp wedi’i greu gyda’i gilydd yn ystod y dydd.   Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau SPAN. Anogir y cyfranogwyr i ddod â chinio parod a chwpan y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd. Mae’r drysau’n agor am 10:15yb ar gyfer cofrestru, a

completed project, News

Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd. Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”. Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd. Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well. Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn
completed project

Cyrraedd Y Nod

“The music project has given me my son back”. Roedd prosiect ‘Cyrraedd y Nod’ yn ymgysylltu â phobl ifanc 11-19 oed sy’n ‘anodd eu cyrraedd’ ac â risg uchel o ddod yn NEET (Heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant), trwy gyflwyno gweithdai celfyddydau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac ymddygiad yn Sir Benfro. Y prif nod yn y pendraw oedd helpu eu hail-integreiddio i addysg prif ffrwd, i’r gymdeithas ac, yn y pendraw, i’r gweithle. Fe fu Celfyddydau Span Arts yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion a gyfeiriwyd gan Wasanaeth Cymorth Ymddygiad Sir Benfro, yn ogystal â’r rheiny a oedd yn mynychu Canolfannau Ieuenctid ar draws y sir, Prosiect Cornerstone yng Ngholeg Sir Benfro i bobl ifanc ag anableddau dysgu a’r Uned Awtistig yn Ysgol Penfro. Trwy weithio gyda’r unedau hyn, ymgysylltwyd â chyfranogwyr ar oed digon cynnar fel ein bod yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’w dyheadau, hunan-hyder ac agweddau at ddysgu, trwy ymgysylltu â gweithdai cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol. Roedd Cam 2 yn canolbwyntio ar feithrin dyheadau ac uchelgeisiau’r cyfranogwyr, a’u cefnogi, ac ar feithrin yr hyder a’r hunanhyder sydd eu hangen er mwyn dysgu mewn ffordd

Scroll to Top