News

News

Celfyddydau SPAN x Menter Iaith Sir Benfro yn cyflwyno Ensemble John S. Davies

Mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro, mae Celfyddydau SPAN yn falch iawn o gyflwyno Ensemble John S. Davies yn ein Cyngerdd Adfent poblogaidd eleni am 3 o’r gloch Dydd Sul y 27ain o Dachwedd yng Nghapel Pisga, Llandysilio, SA66 7TF.   Rydym yn falch o groesawu'r adnabyddus John S. Davies a'i ensemble i naws atmosfferig golau cannwyll yng Nghapel Pisga. Bydd y grŵp talentog o gantorion proffesiynol, aelodau o gorau eglwysi cadeiriol, a myfyrwyr cerdd wedi'u dewis gan John Davies ei hun yn cyflwyno awr lawen o gerddoriaeth gorawl ddwyieithog er mwyn croesawu dechrau'r Adfent. Wedi’u ffurfio yn 1978, mae Cantorion John S. Davies yn perfformio'n rheolaidd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, wedi teithio gyda'r clasuron mawr a gweithiau newydd gwych - y mwyafrif yn rhai di-gyfeiliant- o Lundain i Rufain, ac wedi perfformio mewn nifer o wyliau yng Nghymru. Mae John yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bu'n fyfyriwr. Yn ei swyddogaeth fel Sefydlydd a Chyfarwyddwr Celfyddydol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun (1970-2006) cafodd ei anrhydeddu â'r MBE ym 1997. Mae hefyd wedi derbyn nifer o wobrwyon eraill am ei waith ym myd cerddoriaeth yng Nghymru. Drysau’n agor am 2.30 o’r gloch. Cyngerdd yn cychwyn am 3 [...]
News

Mae rhaglen newydd wedi’i chydgynllunio yn lansio at Celfyddydau SPAN

Rydym yn falch i gyhoeddi lansiad cyfres o brosiectau newydd wedi’u cydgynllunio gan roi lle canolog i leisiau’r gymuned. Yn dilyn 6 mis o sgyrsiau creadigol, mae'r prosiectau hyn yn nodi pennod gyffrous i SPAN wrth i ni gychwyn proses gyd-greu newydd ar y cyd â'r gymuned.   Chwedlau'r Normal Newydd / Tales from the New Normal: Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Comic Relief, rydym yn cydweithio gyda’r actor a dramodydd Ceri Ashe (Bipolar Fi, Chwedlau’r Cyfnod Clo: Bara a Babanod) a’r Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Anna Sherratt (Rholiwch am Wellhad/Roll for Remission) i greu Chwedlau'r Normal Newydd / Tales from the New Normal : darn theatr ddwyieithog ar-lein, wedi ei arwain gan y gymuned, sy'n edrych ar realiti bywyd mewn byd wedi'r cyfnod clo. Caiff perfformiadau eu ffrydio’n fyw ar-lein ym mis Rhagfyr.   Comisiwn Gwobrau Partner Unlimited: Ochr yn ochr â National Theatre Wales a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o ymuno â chomisiwn partner Unlimited am y tro cyntaf. Mae Unlimited yn comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl sy'n wrthryfelgar, radical, anturus, ysbrydoledig, a chwareus. Rydym yn awyddus i weithio gydag artist anabl sydd wedi ymgysylltu'n gymdeithasol i greu gwaith newydd sy'n meddu ar gyseiniant
News

Bydd Gŵyl Llais A Cappella Arberth yn dychwelyd yn 2023!

  Save the date! NAVF is back this Spring. We are incredibly excited to announce that the Narberth A Cappella Voice Festival will be back in full swing from the 3rd – 5th of March 2023. Look forward to a festival weekend packed with live music, an incredible singing feast, as well as engaging and uplifting workshops led by a cappella masters. Book your full festival ticket here or via the box office on 01834 869323. Individual singing feast, concert, and workshop tickets will be available to book soon via the SPAN website. See below for the full festival schedule. Click here for more information about the artists involved. Stay tuned for more updates across our social media channels: Facebook | Instagram | Twitter Supported by the Arts Council of Wales and Pembrokeshire County Council, in collaboration with The Queen’s Hall and Bethesda Chapel, Narberth.    NAVF 2023 Festival Schedule   Friday 3rd March   NAVF Singing Feast Date: Friday 3rd March 2023 Time: Doors open 6pm. Event begins 7pm Location: The Queen’s Hall, Narberth Saturday 4th March   NAVF Morning Workshops and Sharing Date: Saturday 4th March 2023 Time: Doors open for registration 9.30am. Workshops begins 10.30am -12.30pm with

News

Cân Sing: Canu er lles yr enaid

Grŵp canu deufisol i bob gallu yw Cân Sing, sy'n dathlu manteision dyrchafol canu   Mae'r grŵp wedi bod yn cwrdd ers blynyddoedd lawer, gydag ychwanegiadau newydd ar hyd y ffordd. Mae'n berffaith os ydych chi'n edrych i ganu'n rheolaidd mewn amgylchedd di-bwys, neu os ydych chi am ganu bob hyn a hyn. Mae cyflymder yr addysgu yn addas i bawb, heb unrhyw cyfyngiadau amser. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod sesiynau wedi dychwelyd i Arberth, ac yn cael eu cynnal yn Eglwys y Bedyddwyr Bethesda, Arberth, yn rheolaidd am 7.15pm – 9.15pm Bydd yr ymarferydd lleisiol Molara yn arwain y grŵp drwy ddathliad archwiliol o ganu, gan ganolbwyntio ar gryfhau'r llais, goresgyn rhai o'r rhwystrau corfforol ac emosiynol i ganu'n agored ac yn rhydd, a mwy na dim, mwynhau canu! Mae'r repertoire yn amrywiol, gyda chaneuon o Georgia, Ghana, Zimbabwe, a Hawaii, ac ychydig o shanties, yn ogystal â caneuon pop. Mae'r prosiect wedi darparu cefnogaeth a chysylltiad hanfodol ac wedi helpu i wella lles pobl yn y cyfnod anoddaf hwn. Mae aelodau wedi dweud bod y sesiynau yn "ysgogi, cysylltu a chynhesu'r galon ... gyda cymysgedd o gynhesrwydd, sgwrs a chân." Dyddiad: Pob 1af a 3ydd Dydd Llun y
News

Launching this Autumn: Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a pilgrim

Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a pilgrim: sounding the way back through story and song is a participatory arts project seeking to connect with the Welsh and Irish diaspora with particular reference to Pembrokeshire and Wexford and a new cross-border pilgrimage connecting these places. The project takes its title and inspiration from an 18th century hymn by the prolific Welsh writer William Williams Pantycelyn. The song widely known in Wales and beyond through the Welsh diaspora will be familiar to a great many other people around the globe as it is mostly sung to the tune of Amazing Grace. This project will invite people wherever they are in the world to sing this song, a version of this song or any song of special significance to them and the themes of this project and to pin that recording to our online map. Project participants will also have the chance to offer their personal reflections and connections to North Pembrokeshire and Wexford whether current resident, the home place of their forebears, or place of significance for other reasons. Click here to view the project page. The project Pererin Wyf will begin in September 2022 with a series of free online
News

SPAN Arts Announced as Partners in Unlimited Awards

Rydym wrth ein boddau i rannu bod Celfyddydau SPAN wedi'u cyhoeddi fel partneriaid yng Ngwobrau DU a Rhyngwladol Unlimited ar gyfer Artistiaid Anabl. Mae Unlimited yn gorff comisiynu celf sy’n cefnogi, ariannu a hyrwyddo gwaith newydd gan artistiaid anabl ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Ers 2013, mae Unlimited wedi cefnogi dros 460 o artistiaid gyda chyllid o dros £4.9 miliwn, a chyrraedd cynulleidfaoedd o dros 5 miliwn, sy’n golygu ei fod ar y brig yn fyd-eang fel cefnogwr artistiaid anabl. Ym mis Ebrill 2022 daeth Unlimited yn sefydliad annibynnol a chanddo genhadaeth i gomisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliant cyfan yn gwneud hynny. Yn ei flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, mae Unlimited yn gwneud pethau’n wahanol i chwalu’r rhwystrau mae artistiaid anabl yn eu hwynebu, ac i gefnogi newid systemig a chynaliadwy. Mae Celfyddydau SPAN yn un o 17 o sefydliadau yn y DU sy'n partneru gydag Unlimited i gynnig 20 o wobrau i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £584,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y DU
News

Perfformiad Nadoligaidd Theatr Soffa: Nadolig Plentyn yng Nghymru 

Bu cymunedau ledled Sir Benfro yn gweithio’n galed tuag at berfformiadau o stori Nadolig annwyl Dylan Thomas, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, a gafodd ei ffrydio’n fyw yn Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd ymarferion dros alwadau fideo fel rhan o brosiect arloesol Theatr Soffa, gyda phobl yn cymryd rhan o bob cornel o Sir Benfro a Ceredigion ac felly’n gwneud hi'n bosibl i bobl â chyflwr iechyd gymryd rhan mewn prosiect cymunedol. Cydweithiodd Span, Menter Iaith Sir Benfro a Cered i ddod â grwpiau Cymraeg a Saesneg at ei gilydd, a mae’r ddau gast wedi bod yn greadigol wrth grefftio propiau a gwisgoedd eu hun i ddod â'r stori galonnog i fyw. Mae hanes barddonol Dylan Thomas am Nadoligau ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru yn stori boblogaidd iawn, yn cynnwys bleiddiaid, eirth, hipos a chath Mrs Prothero. Cafodd y fersiwn theatr ei chyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio cyfieithiad Bryan Martin Davies. Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth rhyfeddol Deuair sy'n cynnwys doniau cerddorol Elsa Davies a Ceri Owen-Jones, a gwaith celf wreiddiol hyfryd Jake Whittaker, sydd hefyd yn gweithio fel Technolegydd Creadigol ar y cynhyrchiad. Mae Theatr Soffa yn rhan o brosiect Celfyddydau ac Iechyd Span Arts sydd wedi
News

Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd

Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd / Song of the Golden Road Listening Party  Tafarn Sinc, 6ed Tachwedd 2021  Gallwch wrando i’r faled gyfan yma! Ar ôl haf o sgyrsiau a theithiau cerdded llawn gwybodaeth yn ardal y Preselau, mae'r faled radio Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road yn barod o'r diwedd ar gyfer ei darllediad cyhoeddus cyntaf.  Bydd y rhaglen radio dwyieithog ar-lein, awr o hyd, hon yn cael ei lansio yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021.  Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun.  Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun- dyma’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt.  Roedd y sesiynau hyn yn dilyn y gwahanol themâu o neolithig, amaeth, addysg, crefydd a diwydiant ac roedd yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, wrth ddarganfod a chwilota i’r ‘pethe’ sy’n bwysig i bobl am y lle.   Dywedodd Sophie Jenkins, sydd wedi  gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a’r Gymuned gyda’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin am y
News

Y Tangnefeddwyr

Mae'r prosiect hwn bellach wedi gorffen. Gallwch wrando i’r faled gyfan yma! Ar Ddydd Sul Hydref 3ydd gwahoddir cantorion i ymuno a chôr unnos (Scratch Choir) arbennig er mwyn canu a recordio fersiwn o’r gân Y Tangnefeddwyr - gosodiad o gerdd adnabyddus Waldo Williams.  Arweinydd y côr, sy’n dwyn yr enw Côr y Cewri ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn, fydd Rhian Medi Jones a'r cyfeilydd fydd Rhidian Evans. Mae’r digwyddiad yn cael ei recordio ar gyfer prosiect sydd wedi bod yn cymryd lle dros yr haf, sef Cân y Ffordd Euraidd.  Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd yn cynnig agwedd celfyddydol ar dreftadaeth Ein Cymdogaeth Werin Preseli gyda’r bwriad o greu ‘baled radio’ mewn ymateb i ardal Preseli o Grymych i Gwm Gwaun.  Bydd y faled yn plethu llais, sain a chân er mwyn ymgorffori cofnod llafar o le unigryw. Y Ffordd Euraidd yw’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt.   Mae’r prosiect hyd at hyn wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau.  Roedd y teithiau cerdded gweithdy yma yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr a wahoddir, cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau. Mae gwaith a gwaddol Waldo Williams i’r ardal wedi bod yn amlwg wrth i weithdai prosiect Cân Y Ffordd Euraidd mynd yn eu blaen.   Ysgrifennodd Waldo'r gerdd Y Tangnefeddwyr mewn ymateb i’r ail rhyfel byd ac
News

Rydym yn hurio!

Cynorthwy-ydd Marchnata Digidol Cyfnod Mamolaeth Mae Celfyddydau Span, elusen celfyddydau cymunedol wedi’i lleoli yn Arberth, Sir Benfro, yn awyddus i recriwtio person brwdfrydig, gweithgar a chreadigol i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau Span yn cael eu hyrwyddo mor effeithiol ac eang â phosibl Byddai'r rôl yn addas i fyfyriwr neu berson graddedig sydd â phrofiad yn Wordpress, ynghyd â sgiliau digidol, rhwydweithio cymdeithasol a dylunio gwych a diddordeb yn y celfyddydau.   Yn gyfrifol i:              Cyfarwyddwr Celfyddydau Span Lleoliad:                     Arberth, ar-lein a lleoliadau digwyddiadau Cyflog:                       £9.50 yr awr yn gyfwerth â £7,410 y flwyddyn (£17,290 FTE) Oriau:                         15 awr yr wythnos Contract cyfnod penodol cyfnod mamolaeth Bydd angen peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau Gwyliau 5.6 wythnos pro rata yn cynnwys Gwyliau Banc. Mae Celfyddydau Span yn ymroddedig i gyflawni cydraddoldeb cyfleoedd ym meysydd gwasanaethau i’r gymuned a chyflogi pobl, fel ei gilydd, ac yn disgwyl i bob gweithiwr ddeall a hybu ein polisïau yn eu gwaith. Mae Celfyddydau Span yn Gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn DIGITAL MARKETING JOB DESCRIPTION & APPLICANT GUIDANCE NOTES Please note we will not be accepting CV’s. To apply please download and
News

Celfyddydau Span yn croesawu eu Cyfarwyddwr newydd!

Mae’r staff a’r Bwrdd yn gyffrous iawn i groesawu Bethan Touhig Gamble fel Cyfarwyddwr newydd Celfyddydau Span! Mae’n bleser gan Span gyhoeddi penodiad eu Cyfarwyddwr Newydd, Bethan Touhig Gamble.  Gyda recriwtio Bethan mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi gwneud y penderfyniad strategol i’r rôl ddod yn swydd llawn amser. Bydd y capasiti ychwanegol a’r persbectif newydd yn hollbwysig i gefnogi Span i gyrraedd eu gweledigaeth o’r Celfyddydau ar gyfer newid cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru. Daeth Bethan ar draws Celfyddydau Span am y tro cyntaf pan oedden nhw’n partneru NoFit State i ddod â’r sioe deithiol fawr BIANCO i Orllewin Cymru am y tro cyntaf. Gyda chefndir mewn adfywio cymunedol a chelfyddydau cymunedol, mae Bethan yn ymuno â Chelfyddydau Span ar ôl bron degawd fel Pennaeth Datblygu gyda NoFit State Circus. Ochr yn ochr â’i gwaith yno, mae Bethan wedi darlithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â gweithio fel ymgynghorydd codi arian gydag ystod eang o elusennau celfyddydol a gwirfoddol ledled Cymru. "Ar ran Bwrdd Cyfarwyddwyr Celfyddydau Span mae’n bleser gennyf groesawu Bethan Touhig-Gamble i swydd y Cyfarwyddwr. Ar ôl i Kathryn Lambert, ein cyfarwyddwr blaenorol, helpu i leoli Span fel sefydliad celfyddydau cymunedol arloesol, hyblyg a chreadigol,
News

Ymunwch â’n tîm!

Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig CYFARWYDDWR CELFYDDYDAU SPAN Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau? Ydych chi eisiau’r cyfle i arwain sefydliad cyffrous a bywiog? Ydych chi’n feddyliwr creadigol gyda dawn drefniadaethol, dealltwriaeth ariannol a sgiliau da wrth ymdrin â phobl? Mae Celfyddydau Span, elusen gelfyddydau cymunedol a sefydlwyd ers 30 mlynedd, ac a leolir yn Arberth, Sir Benfro, yn chwilio am gyfarwyddwr newydd i gymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros weinyddu’r sefydliad, ei ddigwyddiadau a’i brosiectau,  o ddydd i ddydd. Yn gweithio gyda chorff ymroddedig o Ymddiriedolwyr, byddwch yn rheoli tîm bach o weithwyr a phrosiectau, gan  sicrhau cynaliadwyedd hir-dymor a rhaglen amrywiol o brosiectau a digwyddiadau byw a digidol yn y celfyddydau. Swydd ran-amser am 25 awr yr wythnos yw hon. Cyflog hyd at £30,000 y flwyddyn pro rata yn dibynnu ar brofiad. Am ragor o wybodaeth/pecyn ymgeisio, ewch i’n gwefan  www.span-arts.org.uk <http://www.span-arts.org.uk> neu e-bostiwch  cathyfronfarm@gmail.com <mailto:cathyfronfarm@gmail.com> Dyddiad cau: Dydd Llun Medi 13eg Cyfweliadau: Dydd Mawrth Medi 21ain JOB DESCRIPTION & APPLICANT GUIDANCE NOTES SPAN ARTS DIRECTOR - JOB APPLICATION FORM
News

Calling all those who dare to dream!

Span Arts teams up with Taking Flight and LAS theatre to reintroduce families to theatre, indulge their imaginations and get kids and their grown-ups working together to solve a mystery in the great outdoors. Lockdown has been, at best, a long hard slog for everyone. We've had no access to the things we love- restaurants, cafes, museums... and of course theatre and family events. As the world begins to open back up, with light at the end of the tunnel for theatres and theatre fans alike, two theatre companies have teamed up with their venue counterparts to create The Curious Case of Aberlliw, an accessible outdoor digital adventure in three parts – to get those creative juices flowing as we prepare to get back into our beloved venues. Elise Davison, Artistic Director of Taking Flight explains “We really wanted to create something for families to enjoy together, to get outside and to problem solve.  Over the last year, we have continued to work on productions using various digital platforms. We used the time as an opportunity to be able to explore ways of providing an equality of experience that isn’t just streaming, that goes some way to create immersive events that
News

Galw Allan am Artistiaid – Straeon  Cariad at Natur 

Dyddiad Cau: Dydd Llun Gorffennaf 26ain Cyflawni: Awst – Medi 2021  Mae Celfyddydau Span yn gwahodd artistiaid, cerddorion, ymarferwyr creadigol a/neu gywiethfeydd wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru i greu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect haf Straeon Cariad at Natur. Rydym yn chwilio am ymateb artistig i’r galw ar y celfyddydau i fod o gymorth i gyfrannu at adferiad, llesiant a helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd trwy ddweud straeon sy’n perswadio pobl i ‘syrthio mewn cariad â natur unwaith eto’ ac ysgogi pobl i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau Sir Benfro. Byddwn yn dewis hyd at bedwar artist i greu ymateb artistig, mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, sy’n arwain at destun sgwrs rhwng artistiaid a phobl Sir Benfro yn ymwneud â natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a llesiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, partneriaethau neu gyweithfeydd sy’n gallu ymateb yn greadigol i’r briff a darparu modd i bobl gymryd rhan. Rydym yn edrych am gynigion amlwedd; yr hyn a olygir gan hyn yw prosiectau y gellir eu cyflwyno ar-lein neu’n wyneb yn wyneb, neu, yn ddelfrydol, cymysgedd o’r ddau, fel y gall cynulleidfaoedd/cyfranogwyr gymryd rhan yn ddigidol neu’n gorfforol, o dan do neu yn yr awyr agored. Gwahoddir i chi gynnig syniadau yr hoffech
News

Recriwtio Aelodau i’r Bwrdd

Mae Celfyddydau Span yn awyddus i recriwtio aelodau newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i fod o gymorth i arwain a chefnogi’n tîm arweinyddiaeth drwy adferiad ac ail-agor, ac i helpu i lunio cynnig celfyddydau cymunedol ymarferol ôl-COVID i Sir Benfro. Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd wrth i ni chwilio am ddulliau newydd o weithio er mwyn cyrraedd ein nod ‘ Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig’. Mae SPAN yn elusen celfyddydau cymunedol bywiog a blaengar sydd â’r nod o gyflwyno prosiectau celfyddydol a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl gorllewin Cymru. Wedi’i leoli yn Arberth, ers y cyfnod clo mae Span wedi parhau i weithredu ar-lein, gyda staff yn gweithio o gartref, yn defnyddio technoleg ddigidol i’n galluogi i barhau i gyflwyno profiadau celfyddydol- o theatr ar-lein fel Theatr Soffa i gigs cerddoriaeth ar-lein a’r Prosiect Caredigrwydd - mae SPAN yn ymroddedig i helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig ag eraill, i gael hwyl a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol.   Rydym yn chwilio nawr am aelodau newydd sy’n brofiadol, angerddol a chyda cysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span ymlaen i’r dyfodol. Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol
News

Tîm Cynhyrchu Baled Radio – Briff

An online artistic programme to reduce isolation and loneliness, alleviate fear, stress and boredom, and build community networks in Pembrokeshire.
This programme had its roots in Span Digidol, enabling us to respond quickly to the COVID crisis.

News

Llogi Ystafell

Stiwdio SPAN: Yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’n gwirfoddoli a’n canolfan weinyddol, mae gan adeilad SPAN nifer o opsiynau ar gyfer llogi gan ddefnyddwyr allanol. Mae’r Stiwdio’n addas ar gyfer gweithgareddau bach, gweithdai, cyflwyniadau a chyfarfodydd. Mae parcio ar gael yn y maes parcio cyhoeddus (codir tâl). Mae lle i 30 ond dim ond i 6 os bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’r gost yn cynnwys: Mynediad i Wi-Fi Golau a gwres Toiled gyda basn ymolchi dwylo, addas i‘r anabl Seddau a byrddau Yswiriant yr adeilad- ond mae llogwyr yn gyfrifol am eu gweithgareddau a chynnwys eu hunain Costau:         Hyd at 3 awr £40 (£35 i sefydliadau trydydd sector)                         4-8 awr £60 (£55 i sefydliadau trydydd sector)                         Llogi taflunydd £5                         Gosod yr ystafell i fyny: £5   Cegin SPAN Os oes angen defnyddio’n cegin, sydd â chyfarpar llawn, ochr yn ochr â llogi’r stiwdio, bydd cost ychwanegol. Dewch â’ch bwyd a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda. Nid yw’r gegin ar gael i’w llogi oni bai eich bod yn llogi’r stiwdio hefyd. Cost: £20 Swyddfa SPAN Mae gofod swyddfa (6m x 4m) ar gael lan stâr yn adeilad SPAN. Mae’n addas ar gyfer 3
News

Dan y Wenallt

Diolch am archebu’ch sedd Theatr Soffa ar gyfer cynhyrchiad Celfyddydau Span, Menter Iaith Sir Benfro a Cered o Dan y Wenallt Perfformir y darlleniad a ymarferwyd hyn yn fyw ar Fehefin 19eg 2020. Mae cast y cynhyrchiad yn aelodau’r gymuned – cyhoeddir rhestr lawn o’r cast fan hyn ar ôl y perfformiad. Mae’r perfformiad yn para tua 60 munud, caiff ei ystyried yn ‘PG’. Fydd na ddim toriad felly gwnewch yn siwr fod lluniaeth ysgafn gennych gerllaw! Fel deiliad tocyn gofynnwn yn gwrtais na fyddwch yn rhannu’r linc yma nac yn recordio’r perfformiad pan gaiff ei ddarlledu. Digwyddiad theatr byw wedi ei berfformio o bell yw hwn. I wylio’r cynhyrchiad ar sgrin lawn cliciwch ar y teitl Dan y Wenallt yng nghornel chwith uchaf y ffrâm sydd wedi’i mewnblannu isod. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r sioe! https://youtu.be/49FHLSOtbf4 Os ydych wedi mwynhau’r perfformiad ac os hoffech wylio cynhyrchiadau tebyg yn y dyfodol a fyddech cystal ag ystyried gwneud cyfraniad i Span trwy ddilyn y cyswllt yma: Cyfrannu!

completed project, News

Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd. Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”. Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd. Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well. Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn
Scroll to Top