News

News

Ymunwch â’n tîm!

Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig CYFARWYDDWR CELFYDDYDAU SPAN Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau? Ydych chi eisiau’r cyfle i arwain sefydliad cyffrous a bywiog? Ydych chi’n feddyliwr creadigol gyda dawn drefniadaethol, dealltwriaeth ariannol a sgiliau da wrth ymdrin â phobl? Mae Celfyddydau Span, elusen gelfyddydau cymunedol a sefydlwyd ers 30 mlynedd, ac a leolir yn Arberth, Sir Benfro, yn chwilio am gyfarwyddwr newydd i gymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros weinyddu’r sefydliad, ei ddigwyddiadau a’i brosiectau,  o ddydd i ddydd. Yn gweithio gyda chorff ymroddedig o Ymddiriedolwyr, byddwch yn rheoli tîm bach o weithwyr a phrosiectau, gan  sicrhau cynaliadwyedd hir-dymor a rhaglen amrywiol o brosiectau a digwyddiadau byw a digidol yn y celfyddydau. Swydd ran-amser am 25 awr yr wythnos yw hon. Cyflog hyd at £30,000 y flwyddyn pro rata yn dibynnu ar brofiad. Am ragor o wybodaeth/pecyn ymgeisio, ewch i’n gwefan  www.span-arts.org.uk <http://www.span-arts.org.uk> neu e-bostiwch  cathyfronfarm@gmail.com <mailto:cathyfronfarm@gmail.com> Dyddiad cau: Dydd Llun Medi 13eg Cyfweliadau: Dydd Mawrth Medi 21ain JOB DESCRIPTION & APPLICANT GUIDANCE NOTES SPAN ARTS DIRECTOR - JOB APPLICATION FORM
News

Calling all those who dare to dream!

Span Arts teams up with Taking Flight and LAS theatre to reintroduce families to theatre, indulge their imaginations and get kids and their grown-ups working together to solve a mystery in the great outdoors. Lockdown has been, at best, a long hard slog for everyone. We've had no access to the things we love- restaurants, cafes, museums... and of course theatre and family events. As the world begins to open back up, with light at the end of the tunnel for theatres and theatre fans alike, two theatre companies have teamed up with their venue counterparts to create The Curious Case of Aberlliw, an accessible outdoor digital adventure in three parts – to get those creative juices flowing as we prepare to get back into our beloved venues. Elise Davison, Artistic Director of Taking Flight explains “We really wanted to create something for families to enjoy together, to get outside and to problem solve.  Over the last year, we have continued to work on productions using various digital platforms. We used the time as an opportunity to be able to explore ways of providing an equality of experience that isn’t just streaming, that goes some way to create immersive events that
News

Galw Allan am Artistiaid – Straeon  Cariad at Natur 

Dyddiad Cau: Dydd Llun Gorffennaf 26ain Cyflawni: Awst – Medi 2021  Mae Celfyddydau Span yn gwahodd artistiaid, cerddorion, ymarferwyr creadigol a/neu gywiethfeydd wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru i greu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect haf Straeon Cariad at Natur. Rydym yn chwilio am ymateb artistig i’r galw ar y celfyddydau i fod o gymorth i gyfrannu at adferiad, llesiant a helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd trwy ddweud straeon sy’n perswadio pobl i ‘syrthio mewn cariad â natur unwaith eto’ ac ysgogi pobl i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau Sir Benfro. Byddwn yn dewis hyd at bedwar artist i greu ymateb artistig, mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, sy’n arwain at destun sgwrs rhwng artistiaid a phobl Sir Benfro yn ymwneud â natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a llesiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, partneriaethau neu gyweithfeydd sy’n gallu ymateb yn greadigol i’r briff a darparu modd i bobl gymryd rhan. Rydym yn edrych am gynigion amlwedd; yr hyn a olygir gan hyn yw prosiectau y gellir eu cyflwyno ar-lein neu’n wyneb yn wyneb, neu, yn ddelfrydol, cymysgedd o’r ddau, fel y gall cynulleidfaoedd/cyfranogwyr gymryd rhan yn ddigidol neu’n gorfforol, o dan do neu yn yr awyr agored. Gwahoddir i chi gynnig syniadau yr hoffech
News

Recriwtio Aelodau i’r Bwrdd

Mae Celfyddydau Span yn awyddus i recriwtio aelodau newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i fod o gymorth i arwain a chefnogi’n tîm arweinyddiaeth drwy adferiad ac ail-agor, ac i helpu i lunio cynnig celfyddydau cymunedol ymarferol ôl-COVID i Sir Benfro. Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd wrth i ni chwilio am ddulliau newydd o weithio er mwyn cyrraedd ein nod ‘ Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig’. Mae SPAN yn elusen celfyddydau cymunedol bywiog a blaengar sydd â’r nod o gyflwyno prosiectau celfyddydol a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl gorllewin Cymru. Wedi’i leoli yn Arberth, ers y cyfnod clo mae Span wedi parhau i weithredu ar-lein, gyda staff yn gweithio o gartref, yn defnyddio technoleg ddigidol i’n galluogi i barhau i gyflwyno profiadau celfyddydol- o theatr ar-lein fel Theatr Soffa i gigs cerddoriaeth ar-lein a’r Prosiect Caredigrwydd - mae SPAN yn ymroddedig i helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig ag eraill, i gael hwyl a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol.   Rydym yn chwilio nawr am aelodau newydd sy’n brofiadol, angerddol a chyda cysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span ymlaen i’r dyfodol. Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol
News

Tîm Cynhyrchu Baled Radio – Briff

An online artistic programme to reduce isolation and loneliness, alleviate fear, stress and boredom, and build community networks in Pembrokeshire.
This programme had its roots in Span Digidol, enabling us to respond quickly to the COVID crisis.

News

Llogi Ystafell

Stiwdio SPAN: Yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’n gwirfoddoli a’n canolfan weinyddol, mae gan adeilad SPAN nifer o opsiynau ar gyfer llogi gan ddefnyddwyr allanol. Mae’r Stiwdio’n addas ar gyfer gweithgareddau bach, gweithdai, cyflwyniadau a chyfarfodydd. Mae parcio ar gael yn y maes parcio cyhoeddus (codir tâl). Mae lle i 30 ond dim ond i 6 os bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’r gost yn cynnwys: Mynediad i Wi-Fi Golau a gwres Toiled gyda basn ymolchi dwylo, addas i‘r anabl Seddau a byrddau Yswiriant yr adeilad- ond mae llogwyr yn gyfrifol am eu gweithgareddau a chynnwys eu hunain Costau:         Hyd at 3 awr £40 (£35 i sefydliadau trydydd sector)                         4-8 awr £60 (£55 i sefydliadau trydydd sector)                         Llogi taflunydd £5                         Gosod yr ystafell i fyny: £5   Cegin SPAN Os oes angen defnyddio’n cegin, sydd â chyfarpar llawn, ochr yn ochr â llogi’r stiwdio, bydd cost ychwanegol. Dewch â’ch bwyd a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda. Nid yw’r gegin ar gael i’w llogi oni bai eich bod yn llogi’r stiwdio hefyd. Cost: £20 Swyddfa SPAN Mae gofod swyddfa (6m x 4m) ar gael lan stâr yn adeilad SPAN. Mae’n addas ar gyfer 3
completed project, News

Rhwydwaith y Celfyddydau ac Iechyd

Mae Span wedi sefydlu rhwydwaith newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yn Sir Benfro er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth gynyddol fod y celfyddydau yn gallu chwarae rôl anhepgor mewn trawsnewid cymunedau, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad, a gwella iechyd a lles. Beth rydym eisiau ei wneud:- Adeiladu ar, a chryfhau, y rhwydwaith trwy ddenu rhagor o aelodau, ac yn arbennig amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol, partneriaid gofal iechyd a chymdeithasol, a grwpiau cymunedol. Trwy gyfarfodydd rhwydwaith (ar-lein) rydym eisiau dod â phartneriaid traws-sector ledled Sir Benfro gyfan at ei gilydd i gydweithio  er mwyn datblygu dull mwy cyson tuag at y celfyddydau a llesiant yn y sir. Gweithredu fel canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth, arbenigedd, canfyddiadau a rhannu data. Codi proffil y celfyddydau ac iechyd yn Sir Benfro a darparu llais ar gyfer y sector, gan rannu adnoddau ac effaith. Ysgogi cefnogaeth i mewn i’r sir er budd iechyd a lles pobl Sir Benfro. Coladu tystiolaeth, rhannu canfyddiadau ac arfer orau er mwyn helpu i greu corff pendant o dystiolaeth am effaith y celfyddydau a llesiant yn Sir Benfro. “From its inception the Pembrokeshire Arts and Health Network has taken a proactive and strategic
Cor Pawb
completed project, News

Codwch Eich Llais Sir Benfro

Ymdrech i dorri record canuYn Chwefror 2020, daeth Celfyddydau Span â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu. Gyda Chôr Pawb a Grŵp A Cappella Ieuenctid Arberth yn cymryd rhan flaenllaw, codwyd lleisiau’n unsain ar draws Sir Benfro fel rhan o Ŵyl Llais A Cappella Arberth 2020. Daeth Codwch eich Llais Sir Benfro â llawer o’n grwpiau canu gwych a’n prosiectau at ei gilydd gan wneud ymdrech i dorri record trwy greu côr i bontio’r cenedlaethau gyda chantorion rhwng 0 a 100 oed. Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes y digwyddiad ac yn rhoi sylw penodol i berfformiad angerddol Côr Pawb o’r gân newydd ‘Sing’ a gyfansoddwyd gan Molara fel rhan o’r prosiect. Daeth y digwyddiad cymunedol arbennig yma â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu’n unsain yn union cyn y pandemig COVID-19 gan godi arian i elusennau ieuenctid a dementia yn lleol . Cymryd Rhan Cymerwch ran yn nigwyddiad ymuno yn y gân Siantis Môr Côr Pawb ar Fawrth 28ain “Thanks for a lovely day. It was a total joy to be surrounded by lovely people and beautiful harmonies, really soul-lifting and rather emotional too. It was gorgeous to see the oldies enjoying the
completed project, News

SPAN Digidol

Prosiect dwy flynedd wedi’i ariannu gan Leader a Chyngor Celfyddydau Cymru oedd SPAN Digidol. Cafodd ei gynllunio i ymledu diwylliant ar draws Sir Benfro trwy ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i gymunedau gwledig trwy dechnoleg ddigidol. Cyrhaeddodd y prosiect dros 2,00 o gynulleidfaoedd byw a dros 27,000 o gynulleidfaoedd digidol ledled y sir a thu hwnt gyda chynrychiolaeth o bobl o bob oed. Trwy raglen arloesol o 10 prosiect peilot cysylltodd Span â rhai o’r bobl fwyaf bregus, neu’n draddodiadol/ystrydebol llai hyderus/medrus yn ddigidol trwy brosiectau megis Map Digi Penfro, Cofio, Cân Sing ar-lein, Theatr Soffa, e-docynnau a chynulleidfaoedd Cyngerdd yr Adfent yng Nghapel Pisga. Cyflawnwyd rhai o’r rhain mewn cydweithrediad â Menter Iaith Sir Benfro a Chered. Roedd y prosiect hefyd o gymorth i SPAN addasu’n gyflym i’r argyfwng COVID ac i fedru cyfrannu i’r ymateb cymunedol yn Sir Benfro trwy ddarparu rhaglen ar-lein ar gyfer y cyfnod clo 3 mis gan wasanaethu’r gymuned â phrofiad celfyddydol ar-lein i leddfu diflastod, straen ac unigrwydd ac i wella lles pobl. Roedd pobl yn dweud bod eu hiechyd a’u llesiant yn well o ganlyniad i gymryd rhan mewn prosiectau gan ddangos fod cyfranogaeth mewn gweithgareddau celf yn ffactor i
News

Dan y Wenallt

Diolch am archebu’ch sedd Theatr Soffa ar gyfer cynhyrchiad Celfyddydau Span, Menter Iaith Sir Benfro a Cered o Dan y Wenallt Perfformir y darlleniad a ymarferwyd hyn yn fyw ar Fehefin 19eg 2020. Mae cast y cynhyrchiad yn aelodau’r gymuned – cyhoeddir rhestr lawn o’r cast fan hyn ar ôl y perfformiad. Mae’r perfformiad yn para tua 60 munud, caiff ei ystyried yn ‘PG’. Fydd na ddim toriad felly gwnewch yn siwr fod lluniaeth ysgafn gennych gerllaw! Fel deiliad tocyn gofynnwn yn gwrtais na fyddwch yn rhannu’r linc yma nac yn recordio’r perfformiad pan gaiff ei ddarlledu. Digwyddiad theatr byw wedi ei berfformio o bell yw hwn. I wylio’r cynhyrchiad ar sgrin lawn cliciwch ar y teitl Dan y Wenallt yng nghornel chwith uchaf y ffrâm sydd wedi’i mewnblannu isod. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r sioe! https://youtu.be/49FHLSOtbf4 Os ydych wedi mwynhau’r perfformiad ac os hoffech wylio cynhyrchiadau tebyg yn y dyfodol a fyddech cystal ag ystyried gwneud cyfraniad i Span trwy ddilyn y cyswllt yma: Cyfrannu!

current project, News

Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd. Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”. Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd. Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well. Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn
Scroll to Top