Cynhaeaf Cwiar – A Queer Harvest Festival
Fis Medi yma yn Nanhyfer rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer Cynhaeaf Cwiar, penwythnos o greadigrwydd, defod a chymuned i nodi treigl y flwyddyn. Gyda’n gilydd byddwn yn clodfori’r cynhaeaf, newid y tymhorau, a’r ffyrdd niferus y byddwn yn ymgorffori ymgynefino a pherthyn. Dydd Sadwrn Medi 20fed. Byddwn yn cychwyn gyda’n Gweithdy Creu Masgiau. Dyma ofod i ymgynefino lle mae creu masgiau yn arf i archwilio hunaniaeth, mynegiant a’r gwahanol hunaniaethau sydd tu mewn i ni. Mae hunaniaeth cwiar yn llifol, wedi’i haenu, ac yn eang; trwy’r broses greadigol hon byddwn yn creu masgiau sy’n rhoi ffurf i agweddau ar ein hunaniaeth – y dewr, y cudd, y chwareus, a’r sanctaidd. Efallai y byddwch yn dewis creu masg ar gyfer eich gwarchodwr mewnol, eich hunan yn y gorffennol neu’r dyfodol, neu ar gyfer fersiwn ohonoch chi nad yw’r byd wedi ei weld eto. Er y byddwn yn cyffwrdd â chwedlau a llên gwerin, mae’r ffocws yn bersonol ac yn bresennol, gan ddefnyddio’r masg fel drych, trothwy, a sianel ar gyfer trawsnewidiad. Mae’r bore yn cynnig sesiwn llawn o greu masgiau o 10yb tan 1yp (cyfyngedig i 12 o bobl oed 12+) gyda dewis o sesiwn galw […]






















